O! dyma'r ddyfais fwya'i maes, Y fwya'i chariad, fwya'i gras, Agorodd ffordd o'r ddae'r i'r nef; Cariad heb gymmhar iddo'r un, A nofiodd, yn ei waed ei hun, Trwy angeu, oedd ei gariad ef. Fe gongcrodd, trwy angeuol glwy', O elynion creulawn, nerthol, fwy Nag all'sai byd i gongcro'n un: Fe faeddodd uffern eang, lawn, Ar ben Calfaria un prydnawn, Yn lân heb neb ond ef ei hun. Doed bellach Indiaid pella'r byd, Doed gogledd, dwyrain, de, ynghyd, Canent ei iachawdwriaeth ef: Dadseinied holl dafodau'r byd, Ac aur delynau'r nef ynghyd, Na pheidient tra fo nef y nef. Boed oesoedd meithion, fwy na mwy, Heb rif, heb ddarfod arnynt hwy, I ganu am dy ddirfawr boen: Na thawed tafod o un rhyw, Na dim o dan y nef sy'n byw, Ond sôn am gongcwest addfwyn Oen.William Williams 1717-91
Tonau [888D]: gwelir: Gwnaed concwest ar Galfaria fryn |
Oh, here is the greatest scheme out, The greatest its love, the greatest its grace, It opened a way from the earth to heaven; Love without anything in comparison to it the same, Which swam, in its own blood, Through death, was his love. He conquered trough a mortal wound, From cruel, strong, greater enemies, Than any the world could conquer: He vanquished wide, full hell, On the summit of Calvary one afternoon, Completely with no-one but himself. Henceforth let the distant Indians of the world come, Let north, east, south come together, Let them sing his salvation; Let all the world's tongues sing, With the golden harps of heaven together, Let them not stop while ever the heaven of heaven be. Let vast ages be, more than more, Without number, without their passing away, To sing about thy enormous pain: Let no tongue of any kind fall silent, Nor any who are living under heaven, But tell of the conquest of the gentle Lamb.tr. 2016 Richard B Gillion |
|